R -
Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn
Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)
Gofyn i’r Gweinidog Addysg a Sgiliau
1. Paul Davies (Preseli Sir Benfro): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gynorthwyo plant ag anghenion addysgol arbennig? OAQ(4)0345(ESK)
2. Sandy Mewies (Delyn): Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi ei wneud o'r cyswllt rhwng amddifadedd a chyrhaeddiad addysgol isel ymhlith plant ysgol? OAQ(4)0357(ESK)
3. Leanne Wood (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddyfodol addysg cyfrwng Cymraeg? OAQ(4)0354(ESK)
4. Mick Antoniw (Pontypridd): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am Twf Swyddi Cymru? OAQ(4)0353(ESK)
5. Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru): Pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd yn y chwe mis nesaf i wella safonau addysgol yng Nghymru? OAQ(4)0344(ESK)
6. Leanne Wood (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y cysylltiadau rhwng tlodi a chyrhaeddiad addysgol? OAQ(4)0356(ESK)
7. Lynne Neagle (Torfaen): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am fynediad i addysg ôl-16 yn Nhorfaen? OAQ(4)0348(ESK)
8. Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru): A fydd ymgynghoriad ar gynnwys y ddau gymhwyster mathemateg arfaethedig? OAQ(4)0351(ESK)
9. Leighton Andrews (Rhondda): Pa gynnydd sydd wedi'i wneud ar ddatblygu Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth gydag Ofqual? OAQ(4)0352(ESK)
10. Christine Chapman (Cwm Cynon): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am Gynllun Gweithredu’r Fframwaith Ymgysylltu a Dilyniant Ieuenctid? OAQ(4)0349(ESK)
11. Gwyn Price (Islwyn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am hyfforddi athrawon yng Nghymru? OAQ(4)0350(ESK)R
12. Janet Finch-Saunders (Aberconwy): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am safonau yn y pynciau craidd? OAQ(4)0355(ESK)
13. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am sicrhau cysondeb mewn gwariant ar addysg ar draws Cymru? OAQ(4)0359(ESK)W
14. Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gyhoeddi Adroddiadau Arolygu Estyn? OAQ(4)0362(ESK)
15. Nick Ramsay (Mynwy): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am fandio ysgolion? OAQ(4)0347(ESK)
Gofyn i Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth
1. Mick Antoniw (Pontypridd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am rôl economaidd Ardaloedd Gwella Busnes? OAQ(4)0346(EST)
2. Mark Isherwood (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am seilwaith y rheilffyrdd yng Ngogledd Cymru? OAQ(4)0345(EST)
3. Leighton Andrews (Rhondda): A wnaiff y Gweinidog amlinellu'r dulliau allweddol sydd ar gael iddi ysgogi twf economaidd yng Nghymru? OAQ(4)0334(EST)
4. Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am fuddsoddi mewn gwyddoniaeth yng Nghymru? OAQ(4)0341(EST)W
5. Jenny Rathbone (Canol Caerdydd): Sut y mae arbenigedd mewn technolegau amgylcheddol yn cael ei ddefnyddio i gynorthwyo cwmnïau yng Nghymru i gystadlu yn y farchnad ar gyfer arloesi? OAQ(4)0338(EST)
6. Christine Chapman (Cwm Cynon): Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu eu cymryd yn hanner cyntaf 2014 i helpu i hybu twf yn economi Cymru? OAQ(4)0339(EST)
7. Rebecca Evans (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gymorth Llywodraeth Cymru i fusnesau bach? OAQ(4)0348(EST)
8. Byron Davies (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddyfodol gwasanaethau bysiau yng Nghymru? OAQ(4)0344(EST)
9. Julie Morgan (Gogledd Caerdydd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am flaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer trafnidiaeth bysiau yn Ninas-ranbarth Dwyrain De Cymru? OAQ(4)0343(EST)
10. Mike Hedges (Dwyrain Abertawe): Faint o swyddi sydd wedi'u creu ym Mro Abertawe ers 1999? OAQ(4)0347(EST)
11. Eluned Parrott (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y cynllun datblygu ar gyfer Maes Awyr Caerdydd? OAQ(4)0349(EST)
12. Nick Ramsay (Mynwy): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am ei chynlluniau ar gyfer dwy ddinas-ranbarth Cymru? OAQ(4)0335(EST)
13. Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y rhwydwaith cefnffyrdd yng Ngorllewin Clwyd? OAQ(4)0333(EST)
14. Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ymdrechion i hybu'r economi werdd? OAQ(4)0336(EST)
15. Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gyflwyno adrodd ar berfformiad Ardaloedd Menter yng Nghymru? OAQ(4)0350(EST)